Adwaith cildroadwy

Adwaith cildroadwy
Enghraifft o'r canlynolmath o gydbwysedd Edit this on Wikidata
Mathchemical equilibrium, steady state, adwaith cemegol Edit this on Wikidata
Adwaith cildroadwy

Adwaith cildroadwy yw adwaith sy'n gweithio mewn dau gyfeiriad. Mae yna lawer o adweithiau sy'n mynd mewn un cyfeiriad yn unig; maent yn symud ymlaen gyda'r adweithyddion ar y chwith ac yn creu cynhyrchion ar y dde e.e.

Ca + Cl2 → CaCl2

Y metel calsiwm a'r nwy clorin yw'r adweithyddion yn yr adwaith uchod. Y calsiwm clorid yw'r cynnyrch. Mae'r adwaith uchod yn mynd o'r dde i'r chwith yn unig. Mae'r adwaith yn parhau nes bydd yr adweithyddion yn darfod ac felly bydd yr holl galsiwm a'r clorin yn adweithio.

Ond mae'r rhan fwyaf o adweithiau yn gildroadwy, hynny yw, gall adweithiau cildroadwy fynd yn ôl ac ymlaen (o'r dde i'r chwith ac o’r chwith i'r dde) am byth e.e. proses Haber:

N2 + 3H22NH3


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search